{ko: o freuddwyd yr vn gwr}
1 fal yroyddwn gwyddwn gel
2 yn dargwsg mewn lle dirgel
3 gwelais yn ael dichlais dydd
4 breyddwyd ar ol borevddydd
5 gweled fy mod yn rodiaw
6 a llv betheiaid im llaw
9 ag i fforest yn gostwng
10 tebic i blas tayog blwng
11 collyngwn i yn ddioed
12 dybygwn y kwn ir koed
15 klown oriay lleisiay llid
16 kanv yn aml kwn yn ymlid
17 [113] ar ewic wen vwch llenneirch
18 dybygwn karwn y keirch
19 ar rawd fetheiaid ar hynt
20 yn i hol iawn i helynt
21 kyrchv r allt yn ddiwalltrvm
22 athros ddwy esgair athrvm
23 a thrachefen dros y kefnydd
24 x ar hynt vn helynt ar hydd
25 a dyfod ar ol dofi
26 yma yn ddig im nawdd i
31 kefais henawgwraig kyfiawn
32 pan oedd ddydd yn ddedwydd iawn
33 adde a wneythym iddi
34 goel nos modd y gwelwn i
39 da byth y diobeithwr
40 yw dy freyddwyd od wyd wr
41 y kwn heb gel a welvd
42 ith law pe gwydden iaith lvd
43 dy hwylwyr diav helynt
44 dy latteion eon ynt
45 ar ewig wen vn benes
46 a garvd ti hoen garw tes
47 a diav yw hyn y daw hi
48 ith nawdd a dyw ith noddi
dd ap gwilim ai kant